Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis.  

Mae gan ddysgwyr ar y rhaglen hon yr opsiwn o ddau lwybr astudio.  Mae llwybr un yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau. Mae’r ail lwybr yn cynnwys adeiladu portffolio o dystiolaeth drwy ddiploma seiliedig ar waith City & Guilds.  

Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn 18 mis.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).

Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.

Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod).

Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.

Mae diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llwybr amgen diarholiad.

Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy’n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys naill ai Tystysgrif lefel tri BHSQ mewn Gofal Ceffylau a Dyfarniad lefel tri BHSQ mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau neu ddiploma lefel tri City & Guilds mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau yn y gweithle.

Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw: 

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
  • Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.

Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:

  • Bwydo a Ffitrwydd Ceffylau
  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Iechyd Ceffylau
  • Gofalu am Laswelltir a stablau
  • Arwain ceffyl heini ar gyfer ymarfer
  • Gosod Tac a Chyfarpar ar gyfer cystadlaethau
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i’r brentisiaeth geffylau uwch ar lefel pedwar ac mae myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen yn y gwaith i fod yn gynorthwyydd neu reolwr iard. 

Dull asesu

Arholiad BHSQ Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau y gellir ei sefyll ym Mhibwrlwyd, Coleg Sir Gâr, neu bortffolio o dystiolaeth diploma seiliedig ar waith lefel tri City & Guilds, wedi'i asesu gan staff cymwys y coleg yn y gweithle ac yn y coleg hefyd.  Bydd dysgwyr ar y naill lwybr neu’r llall yn cael eu hasesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.

Gofynion Mynediad
  • BHS Cam 2 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
  • Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
  • Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau/Gofal Ceffylau Rasio
  • Diploma Lefel 2 i Wastrodion Ceffylau Harnais
  • NVQ Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
  • Prawf B y Pony Club

Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol tra’n astudio ar y cwrs heblaw bydd gofyn i'r dysgwr brynu Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain os yw’n sefyll arholiadau BHS.  Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu a’ch cyfarpar personol eich hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.