Nid oes angen hyfforddiant ffurfiol na phrofiad. Fodd bynnag, mae cymhwyster lefel un mewn lletygarwch ac arlwyo yn ddymunol. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd D neu uwch mewn mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu er mwyn pasio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.