Prentisiaeth mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadura

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • Bydd cwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn cymryd 21 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  • Campws y Graig

Er mwyn gwneud cais am y brentisiaeth hon mae rhaid eich bod eisoes yn gyflogedig.

Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel tri lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy ond yn ôl disgresiwn y cyflogwr). Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.   Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser yn ogystal ag asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn. 

Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Diploma Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth
  • Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 2:

  • Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch ar lefel pedwar.

Dull asesu

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion Mynediad

Bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn am bump TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth pan fyddwch yn gwneud cais am y rhaglen hon. Hefyd byddai cyflogwyr yn gwerthfawrogi cyflawni Diploma Technoleg Gwybodaeth lefel dau (ar gyfer rhai 14-19 oed) neu’r Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen mewn Technoleg Gwybodaeth.

Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.