Mae prentisiaeth lefel tri City & Guilds mewn crefftau adeiladu wedi’i datblygu i ganiatáu i’r rheiny sydd mewn dysgu seiliedig ar waith ddangos a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth galwedigaethol o fewn crefft adeiladu o’u dewis.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni’r lefel dau sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu neu byddan nhw’n cwblhau’r dysgu a’r asesiadau lefel dau craidd mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu tra ar eu prentisiaeth.
Pan gaiff ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael eu profi’n gymwys i gael cyflogaeth yn eu crefft ddewisol yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau adeiladu lefel tri eraill sy’n berthnasol i’w crefft ddewisol.
Dewisiadau Opsiwn
Gwaith Saer ar Safle
Gosod Brics
Plastro Solet
Peintio ac Addurno
Cipolwg
Llawn Amser
1-2 flynedd
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Fel prentis, neilltuir ymgynghorydd hyfforddi i chi a fydd yn cadw golwg arnoch ac yn rhoi cymorth i chi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a’ch tiwtoriaid yn y coleg.
Disgwylir i chi fynychu’r coleg i ddysgu gwybodaeth greiddiol. Hefyd cynhelir asesiadau yn y coleg a’r gweithle’n rheolaidd. Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith ymarferol a theori hefyd
Cynnwys y Rhaglen
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yn eu crefft ddewisol fel y ceir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Yn ogystal bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned graidd yn cwmpasu’r sector adeiladu ac ymarfer yn y sector yng Nghymru. Bydd y cymhwyster yn gludadwy ar draws y DU ac mae wedi’i anelu at ddatblygu gallu dysgwyr i ateb gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda stoc adeiladau traddodiadol, newydd a chyn 1919 a deall technolegau newydd a datblygol, megis dronau ac argraffu 3D.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi i’r dysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i’r dysgwr allu gweithio yn ei grefft ddewisol ar draws y DU.
Asesu'r Rhaglen
Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymwysterau sylfaen a dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymhwyster sylfaen ond nid yw wedi cwblhau’r cymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Dau brawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster lefel tri hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb yn gyntaf gyflawni’r cymhwyster sylfaen neu gymhwyster dilyniant, mae rhaid iddo gwblhau’n llwyddiannus:
Tri phrawf aml-ddewis, wedi’u gosod a’u marcio’n allanol.
Un prosiect wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol.
Un drafodaeth dan arweiniad wedi’i marcio’n fewnol.
Un prosiect wedi’i osod gan y cyflogwr a’i asesu’n fewnol, yn cwmpasu ei faes crefft dewisol.
Un drafodaeth broffesiynol wedi’i marcio’n allanol.
Gofynion y Rhaglen
Dylai dysgwyr fod yn 16 oed a hŷn ac yn gweithio yn y sector adeiladu ar hyn o bryd.
TGAU graddau A* i D mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu gymhwyster lefel un cysylltiedig ag adeiladu neu L1/2 CBAC Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig neu lefel dau Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu lefel dau Dilyniant mewn Adeiladu.
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn.
Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.