Mae'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Gosod Ffenestri yn mynd i'r afael ag ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gosod ffenestri, drysau ac adeiladau cynnal gwydr.
Mae hyn yn cynnwys sut i: dynnu hen ffenestri, drysau ac ystafelloedd gwydr gydag offer llaw ac offer pŵer; mesur y gofod(au) ar gyfer y ffenestri neu'r drysau newydd; gosod yr unedau yn eu lle, gan sicrhau eu bod yn wastad a diogel; selio'r ffitiadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiddos a glanhau deunyddiau sy'n weddill ac atgyweirio unrhyw ddifrod i waith pren neu waith plastr dan do.
Cipolwg
Rhan Amser
16 mis
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Bydd dysgwyr yn cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cysylltiedig â Gwydr, Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gosod Ffenestri ynghyd â Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth a Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso rhif a chyfathrebu.
Caiff dysgwyr sydd â gradd G TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth) eu heithrio rhag ymgymryd ag unedau Sgiliau Hanfodol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Dylai'r rheiny sydd am ennill arbenigedd ychwanegol yn eu crefft, ac sydd yn ceisio ennill cymhwysedd mewn gweithgareddau goruchwylio a rheolaethol, fynd ymlaen i Lefel 3.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau trwy arsylwi tasgau ymarferol yn y gweithle a gofyn cwestiynau seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau digidol.
Cynnwys y Rhaglen
Asesir ystod o unedau gorfodol a dewisol yn y gweithle ynghyd â chwestiynau gwybodaeth diwedd uned a fydd yn ysgrifenedig a hefyd yn cael eu hateb ar lwyfan digidol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.