Mae’r rhaglen brentisiaeth L2 mewn ffitiadau mewnol yn addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio gyda gosod ffitiadau mewnol i gynnwys ceginau, ystafelloedd ymolchi a dodrefn ystafelloedd gwely.
Caiff y rhaglen brentisiaeth ei chyflwyno dros 22 mis ac fe fydd yn cynnwys y cydrannau fframwaith canlynol:
NOCN_Cskills Awards Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Ffitiadau Mewnol (Adeiladu)
NOCN_Cskills Awards Diploma NVQ Lefel 2 mewn Ffitiadau Mewnol (Adeiladu)
Sgiliau Hanfodol L1 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
Dewisiadau Opsiwn
Prentisiaeth L2 mewn ffitiadau mewnol
Cipolwg
Llawn Amser
22 Mis
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r fframwaith prentisiaeth hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth prentisiaid yn y gweithle ac yn amgylchedd hyfforddi’r coleg. Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi’r dysgwr i ennill sgiliau galluogi, sylfaenol a sgiliau ymarferol trosglwyddadwy ynghyd â gwybodaeth greiddiol gysylltiedig. Mae’r rhaglen yn arbennig o addas ar gyfer unigolion sy’n ffitio unedau cegin, ystafell wely ac ystafell ymolchi yn rheolaidd mewn tai neu amgylcheddau gwaith masnachol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r cymhwyster diploma L2 yn cynnwys y 5 uned orfodol ganlynol;
Iechyd, diogelwch a lles ym maes adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
Deall gwybodaeth, meintiau a chyfathrebu ag eraill
Deall technoleg adeiladu
Gosod dodrefn ffitiedig
Gosod plymwaith sylfaenol
Bydd prentisiaid hefyd yn cwblhau’r unedau NVQ L2 canlynol fel rhan o’u rhaglen;
Cydymffurfio ag Iechyd, Diogelwch a Lles Cyffredinol yn y Gweithle
Cydymffurfio ag Arferion Gwaith Cynhyrchiol yn y Gweithle
Symud, Trin a Storio Adnoddau yn y Gweithle
Gosod Dodrefn Ffitiedig yn y Gweithle
Cwblheir Sgiliau Hanfodol L1 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif yn ystod diwrnodau hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith o fewn lleoliad y Coleg.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r rhaglen brentisiaeth hon byddwch chi wedi ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ac wedi arddangos cymhwysedd ar gyfer symud ymlaen i gymhwyster lefel uwch yn yr un maes galwedigaethol neu un tebyg, neu wedi galluogi mynediad i ddatblygiad addysgol pellach ar gyfer swyddi goruchwyliol o fewn y gweithle.
Asesu'r Rhaglen
Unedau NVQ L2
Cewch eich asesu yn erbyn set o ddatganiadau perfformiad a gwybodaeth sydd wedi’u deillio o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y maes galwedigaethol. Bydd gofyn i chi gynhyrchu Portffolio o Dystiolaeth yn dangos sut rydych chi wedi bodloni’r meini prawf perfformiad a gwybodaeth ar gyfer pob uned sy’n ofynnol o fewn y cymhwyster. Nid yw’r cymhwyster hwn yn cael ei raddio.
Unedau diploma L2
Y gofynion asesu a osodir ar gyfer y cymhwyster hwn yw profion gwybodaeth amlddewis ac aseiniadau ymarferol. Graddio: Caiff pob un o unedau gwybodaerh y cymhwyster eu graddio fel pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Yna caiff y graddau hyn eu cyfansymio i un radd gymhwyster gyffredinol o radd pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Mae’r graddio’n berthnasol ar gyfer y cymhwyster cyffredinol ac mae rhaid pasio pob elfen i gyflawni’r cymhwyster.
Sgiliau hanfodol
Caiff y Sgiliau Hanfodol ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ill dau eu hasesu drwy dasg dan reolaeth gyda phrawf ar-lein i gadarnhau yn dilyn.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, bydd angen i chi gwblhau cyfweliad mynediad er mwyn gwneud y siŵr bod gennych y gallu a’r potensial i ennill holl elfennau’r fframwaith prentisiaeth yn llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.