Prentisiaeth - Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 16 Mis

  • Campws Graig

Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3 lle mae'r dysgwr yn ‘ennill cyflog wrth ddysgu’. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu cyflogi fel Cynorthwywyr Addysgu neu weithwyr cymorth tebyg sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb o fewn rôl eu swydd.  

Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Bydd y Prentis yn mynychu’r coleg am brynhawn/noson a dylai gyflawni’r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gymorth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i ategu dysgu ochr yn ochr â'r athro; cymorth dwyieithog; cymorth anghenion arbennig; a datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.

Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen. Mae staff profiadol, gwybodus a chefnogol yn cyflwyno unedau yn y coleg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Deall datblygiad plentyn a pherson ifanc;
  • deall sut i ddiogelu lles plant a phobl Ifanc;
  • Hyrwyddo cydraddoldeb;
  • amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc;
  • cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc;
  • cefnogi gweithgareddau dysgu. 

Enghraifft o unedau opsiynol:

  • Cefnogi datblygu llythrennedd;
  • cefnogi datblygu rhifedd;
  • darparu cymorth dwyieithog ar gyfer addysgu a dysgu;
  • cefnogi plant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau o drawsnewid yn eu bywydau;
  • arwain gweithgarwch allgyrsiol; arwain ac ysgogi eraill. 

Mae sgiliau cymhwyso rhif hanfodol, sgiliau cyfathrebu hanfodol a sgiliau llythrennedd digidol hanfodol hefyd yn ofynnol o ran y fframwaith. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr symud ymlaen i’r Dystysgrif Lefel 4 ar gyfer yr Ymarferydd Uwch mewn Ysgolion a Cholegau, gradd sylfaen neu rolau arbenigol o fewn y gweithlu.

Dull asesu

Mae’r cymhwyster hwn yn asesiad seiliedig ar E-bortffolio drwy gasgliad o aseiniadau ysgrifenedig a gwaith cwrs, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith. 

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad:  Rhaid bod y prentisiaid yn cael eu cyflogi fel aelodau o weithlu’r ysgol sy’n cefnogi’n uniongyrchol addysgu a dysgu disgyblion mewn maes sy’n gofyn am wybodaeth a sgiliau arbenigol. Amodol ar gyfweliad llwyddiannus. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.