Rhan Amser
Bydd cwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn cymryd 21 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Gelli Aur
Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel tri lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.
Bydd gan y prentis y dewis o gael ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r ymgynghorydd hyfforddi a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.
Rhaid i’r dysgwr gyflawni’r holl unedau craidd yn ogystal ag unedau ychwanegol. Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn mae’n ei wneud yn y gwaith.
Rhaid i ddysgwyr sy’n cwblhau’r brentisiaeth gyflawni Uned 317 - sefydlu, monitro a chynnal hylendid safle a bioddiogelwch.
Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:
Gall y brentisiaeth arwain at radd sylfaen neu raglen brentisiaeth lefel uwch.
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Mae’r diwydiant amaeth angen i’r gofynion mynediad ar gyfer y brentisiaeth fod yn hyblyg, felly bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, naill ai lefel un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster y mae rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad.
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.