Rhan-amser
Bydd cwblhau prentisiaeth sylfaen yn cymryd 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws y Gelli Aur
Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.
Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau, a fydd yn cynnwys unedau craidd ac ychwanegol, bydd y dysgwr, y cyflogwr a’r ymgynghorydd hyfforddi yn dewis yr unedau ychwanegol gyda’i gilydd. Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn mae’n ei wneud yn y gweithle.
Hefyd bydd angen i’r dysgwr gyflawni:
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.
Portffolio gwaith cwrs, cwestiynu ysgrifenedig a llafar, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Does dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y brentisiaeth sylfaen lefel dau mewn amaethyddiaeth, fodd bynnag, mae yna gymwysterau a phrofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn.
Bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, sef un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster y mae rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad. Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.