Skip to main content

Prentisiaeth Sylfaen - Peirianneg ar Dir

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith Lefel 2, lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu".  Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed.  Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth.  Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am floc i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig. 

Cipolwg

  Llawn Amser

  Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.  

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

  • Bydd pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn mynd ati'n rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau.
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau fod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu'r Prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
  • Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol Lefel 1
  • (Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.

Asesu'r Rhaglen

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion y Rhaglen

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol 

NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol 

Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith 

Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol  

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefn Gwlad a’r Amgylchedd  

Profiad ymarferol yn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol 

TGAU (A*-C)/Safon Uwch 

Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.



Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.