Skip to main content

Prentisiaeth Uwch mewn Amaethyddiaeth

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol

  • Campws Gelli Aur

Mae prentisiaeth uwch yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel pedwar lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae’r llwybr rheolaeth amaethyddol yn briodol ar gyfer rheolwyr uned sy’n gyfrifol am reolaeth menter benodol, er enghraifft defaid neu wartheg bîff.

Mae’r llwybr rheolaeth busnes amaethyddol yn briodol ar gyfer rheolwr cynorthwyol fferm sy’n cynorthwyo rheolwr fferm gyda rheolaeth fferm. Bydd y prentis yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis. Gall y cyflwyno gynnwys mynychu’r coleg un dydd yr wythnos, ar sail rhyddhau am floc byr neu ddysgu o bell. Dylai’r dysgwr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel pedwar o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen
  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod)
  • Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Cynnwys y Rhaglen
  • Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith
  • Rhaid cyflawni Sgiliau Hanfodol er mwyn cwblhau’n llwyddiannus
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 2
  • Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r brentisiaeth uwch hon yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch eraill.

Dull asesu

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion Mynediad

Mae’r Diwydiant Amaethyddiaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y brentisiaeth uwch fod yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o’r canlynol: 

  • Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
  • Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 
  • Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Hwsmonaeth Moch
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
  • NVQ Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Cnydau/Da Byw
  • Ystod dda o brofiad ymarferol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth
  • Gwaith gwirfoddol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth
  • 5 TGAU (A*-C)
  • 2 UG/Safon Uwch

Bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, sef un, dau, tri neu bedwar.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.