Skip to main content

Peirianneg Amaethyddol Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn neu 2 Flynedd  

  • Campws Gelli Aur

Mae'r cwrs dwy flynedd hwn yn darparu'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol sy'n dymuno symud ymlaen i leoliad gwaith cysylltiedig â diwydiant neu addysg uwch.   Mae'n cwmpasu sylfaen eang o beirianneg amaethyddol ac er ei fod yn gwrs ymarferol, mae’n canolbwyntio hefyd ar y theori y tu ôl i'r technolegau peirianneg sy'n gysylltiedig â'r diwydiant amaethyddol, yn enwedig o ran gofynion dylunio, gweithgynhyrchu a gwasanaethu tractorau amaethyddol a pheiriannau tir.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r rhaglen yn gwrs lefel tri, llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch. 

Blwyddyn 1 - 90 credyd

Blwyddyn 2 - 180 credyd

Fel rhan o'r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn astudio tuag at gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

  • Dilyniant mewn addysg i Addysg Uwch
  • Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol. 
  • Hyfforddiant ymarferol a theori mewn peiriannau a chyfarpar Amaethyddol ac Ar Dir. 
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Cynnwys y Rhaglen
  • Technoleg Injan,
  • Technoleg Disel,
  • Dylunio Peirianegol,
  • Mathemateg Beirianegol,
  • Iechyd a Diogelwch,
  • Profiad yn gysylltiedig â gwaith (o leiaf 300 awr ym mlwyddyn un)
  • Systemau Hydrolig,
  • Diagnosteg,
  • Systemau Siasi,
  • Trawsyriannau,
  • Prosiect Peirianneg,
  • Trydan a systemau rheoli electronig,
  • Gwasanaethu peiriannau a chyfarpar,
  • Rhoi, amaethu a chynaeafu
  • Uniadu thermol
Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau'r diploma estynedig yn llwyddiannus yn cymhwyso myfyrwyr i gael mynediad i leoliadau gwaith cysylltiedig â’r diwydiant a chyrsiau lefel addysg uwch mewn pynciau cysylltiedig. 

Dull asesu

Asesir ar sail aseiniadau gwaith cwrs, profion diwedd modiwl, cwestiynu llafar ac ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol yn y gweithdy.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Pum TGAU graddau A* - C (yn cynnwys mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, neu Gymraeg) neu gymhwyster diploma lefel dau mewn pwnc perthnasol ynghyd ag un TGAU A* - C naill ai mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg. 

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu PPE gan gynnwys bŵts diogelwch, oferôls a sbectol diogelwch cyn dechrau'r cwrs.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.