Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn 

  • Campws Gelli Aur

Mae hwn yn gwrs llawn amser delfrydol ar gyfer y rheiny sy'n dymuno camu i'r diwydiant amaethyddol ond sydd efallai heb unrhyw brofiad neu gymwysterau ffurfiol. 

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich theori a’ch sgiliau ymarferol mewn amaethyddiaeth gan gynnwys cyfle i gwblhau 60 awr o brofiad gwaith a all wella rhagolygon cyflogaeth. 

Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd a’r cyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Nodweddion y Rhaglen
  • Cwrs ymarferol.
  • Staff caredig, gofalgar a gwybodus.
  • Fferm goleg ardderchog gydag ystod dda o anifeiliaid a pheiriannau ynghyd ag ymweliadau rheolaidd â ffermydd, marchnadoedd a sioeau.

Cynnwys y Rhaglen

Mae gan ein cwrs amaethyddiaeth lefel un amrywiaeth o unedau gan gynnwys:

  • Gofalu am anifeiliaid megis gwartheg llaeth, gwartheg bîff a defaid.  
  • Dysgu am beiriannau fferm, gan gynnwys tractorau ac offer.
  • Dysgu am gnydau a ddefnyddir mewn ffermio da byw.

Bydd y tasgau ymarferol yn cael eu cyflawni ar fferm y coleg yn ystod sesiynau fferm ymarferol, lle byddwch yn cael eich dysgu i wneud amrywiaeth o dasgau bob dydd fel bwydo, gosod gwelyau gwellt, glanhau llociau, wyna, lloia a phob gofal iechyd arferol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Yn dilyn llwyddiant ar lefel teilyngdod neu ragoriaeth fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel dau llawn amser neu brentisiaeth..  Mae’r staff yn hapus i’ch cefnogi a’ch tywys o ran eich dyheadau.

Dull asesu

Bydd hyn yn seiliedig ar asesiadau ymarferol, llafar ac ysgrifenedig sy'n barhaus trwy gydol y cwrs.

Gall rhai fod yn seiliedig ar berfformiad a bydd eraill yn canolbwyntio ar wybodaeth greiddiol yr uned. 

Hefyd bydd dau arholiad ar-lein.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Tri TGAU graddau A* i G neu gyfwerth a chyfweliad lllwyddiannus.  Mae’n hanfodol bod gennych ddiddordeb mewn ffermio, da byw a chnydau.  

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.