Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Blwyddyn 

  • Campws Gelli Aur

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o ffermio ymarferol.  

Mae ganddo elfennau o wyddor planhigion ac anifeiliaid, hwsmonaeth anifeiliaid, peiriannau ac agweddau amgylcheddol drwy sgiliau ystad, sy’n dangos yr ystod eang o wybodaeth sydd ei hangen i weithio o fewn busnes ffermio.  

Byddwch yn cymryd rhan mewn cymysgedd o addysgu ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth.

Fel rhan o’r cwrs, mae elfen o brofiad gwaith gorfodol a fydd yn helpu datblygu sgiliau a gwella cyflogaeth yn y diwydiant ar dir.  

Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol mewn rhifedd a llythrennedd.  Bydd cyfleoedd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer TGAU mewn Saesneg a mathemateg, a fydd yn hanfodol er mwyn parhau i lefel tri.

Nodweddion y Rhaglen
  • Adnoddau a chyfleusterau ardderchog
  • Cymysgedd o wersi ymarferol a theori
  • Amrywiaeth ragorol o ymweliadau a siaradwyr gwadd
  • Cyfwerth â phedwar TGAU
  • Mae’r cwrs yn cynnwys profiad gwaith
  • Arbenigedd a chefnogaeth staff
Cynnwys y Rhaglen
  • Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
  • Peiriannau Amaethyddol
  • Hwsmonaeth Cnydau
  • Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
  • Cynnal a chadw ystâd
  • Gwyddor Planhigion ac Anifeiliaid
  • Gweithio yn y Diwydiant Amaethyddol
Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ar lefel teilyngdod neu’n uwch yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen i gyrsiau eraill ar lefel tri. Mae’r cwrs yn rhoi hyfforddiant ymarferol cynhwysfawr i’r rheiny sydd am fynd ati i ffermio’n ymarferol ac mae’n darparu gwybodaeth sylfaenol ragorol ar gyfer prentisiaethau.

Dull asesu

Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Bydd hi’n ofynnol i chi gael:

  • Cymhwyster lefel un ar lefel teilyngdod neu’n uwch neu
  • Bedwar TGAU ar raddau A* i E gydag o leiaf un TGAU ar radd A* i C mewn Cymraeg, Saesneg neu fathemateg.
  • Yn ogystal, rhaid i chi gael cyfweliad llwyddiannus a dangos brwdfrydedd tuag at amaethyddiaeth a meddu ar y profiad amaethyddol priodol.
Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.