Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan Amser

  • 2 flynedd yn llawn amser, 3 blynedd - trwy gael eich rhyddhau am y dydd.

  • Campws Gelli Aur

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: 3H2F

Mae'r cwrs Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth hwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y rheiny sy'n camu i fyd ffermio ymarferol, rheolaeth fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.

Nodweddion y Rhaglen
  • Caiff y Radd Sylfaen ei chyflwyno'n llawn amser ac yn rhan-amser, sy'n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno gwaith gydag addysg uwch.
  • Mae'r cwrs yn un modiwlaidd a gall myfyrwyr ennill ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodiwlau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus
Cynnwys y Rhaglen
  • Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol
  • Sgiliau astudio a chyfathrebu
  • Gwyddor cnydau amaethyddol, planhigion a phridd
  • Arferion a Pherfformiad y Diwydiant 1
  • Cynhyrchu Da Byw
  • Egwyddorion mecaneiddio ac amaethyddiaeth fanwl gywir
  • Cynhyrchu Glaswellt a Chnydau Porthiant
  • Rheoli Busnesau Ar Dir
  • Arferion a Pherfformiad y Diwydiant 2
  • Maetheg Anifeiliaid Fferm
  • Ffermio a’r Amgylchedd
  • Iechyd Anifeiliaid Fferm
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae ein Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth yn darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i'r rheiny sy'n bwriadu camu i'r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr mentrau busnes a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol.

Ar ôl cwblhau’r Radd Sylfaen yn llwyddiannus gall myfyrwyr symud ymlaen i’r rhaglen radd BSc mewn Amaethyddiaeth.

Dull asesu

Caiff perfformiad myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modiwl a thrwy gwblhad prosiect mawr.

Gofynion Mynediad

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar bedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS.

Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hŷn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad, yn seiliedig ar eu profiad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill a all fod yn berthnasol i'r diwydiant.

Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma a Diploma Atodol NPTC Lefel 3.

Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.