Prentisiaeth Sylfaen - Gweithrediadau Sgaffaldio

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 22 Mis

  • Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC)

Bydd y brentisiaeth lefel dau hon yn eich galluogi i ddangos eich sgiliau a’ch gwybodaeth i brofi eich cymhwysedd mewn amgylchedd gweithle go iawn. Caiff y cwrs hwn ei gefnogi gan y Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC) a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau’r broses o gael cerdyn Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu. (CISRS) sef cynllun diwydiant y DU ar gyfer hyfforddiant sgaffaldiau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi chi, y dysgwr, i ddangos ac adnabod eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth fel y gallwch symud ymlaen i hyfforddiant pellach ar lefel 3 neu ar ôl cwblhau lefel 2 yn llwyddiannus, symud ymlaen i rôl swydd yn y gweithle.

Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi chi, y dysgwr, i ddangos ac adnabod eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth fel y gallwch weithio fel Sgaffaldiwr yn y diwydiant adeiladu.

Cynnwys y Rhaglen
  • Atal cwympiadau ym maes sgaffaldio
  • Iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
  • Codi a datgysylltu sgaffaldiau to,
  • sgaffaldiau tŵr alwminiwm parod, tyrau sefydlog,
  • sgaffaldiau cantilifer, sgaffaldiau tŵr sylfaenol,
  • sgaffaldiau annibynnol a phwtlog sylfaenol a sgaffaldiau cawell sylfaenol.
  • Gwybod am wybodaeth dechnegol, meintiau a
  • Chyfathrebu ag eraill
  • Technoleg adeiladu
  • Defnyddio darpariaeth ar gyfer amddiffyn rhag cwympiadau
  • Systemau/cyfarpar.

Yn ogystal, byddwch yn ennill Diploma NVQ lefel dau mewn Gweithrediadau Mynediad a Rigio (Adeiladu) - Sgaffaldio 600/8244/6.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau’r broses i gael cerdyn CISRS.

Beth yw Cerdyn CISRS?  Mae'r Cerdyn CISRS yn dwyn ei enw o’r cynllun hyfforddi Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu. CISRS yw cynllun diwydiant y DU ar gyfer hyfforddiant sgaffaldiau. Mae CISRS yn darparu ystod o gardiau sgiliau ar gyfer y rheiny mewn amrywiol rolau sy’n ymwneud â sgaffaldio.

Dull asesu
  • Portffolio ar gyfer NVQ
  • Asesiadau ymarferol
  • Arholiadau a phrofion ar-lein

Cewch eich asesu yn erbyn set o ddatganiadau perfformiad a gwybodaeth sy’n deillio o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer eich maes galwedigaethol.  Byddwch yn cael eich hyfforddi a'ch asesu gan hyfforddwr sy'n alluog yn alwedigaethol ac yn gymwys a'i dasg yw eich helpu i gwblhau eich cymhwyster.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dilyn y cymhwyster hwn. Gellir cwblhau’r cymhwyster hwn heb unrhyw hyfforddiant blaenorol neu gymwysterau yn y maes pwnc hwn. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar radd G neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth) gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathebu.  Rhaid i chi fod yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio ar uchder

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.