Mae hon yn rhaglen hynod ymarferol a gynlluniwyd i ddatblygu’r sgiliau a’r priodoleddau hanfodol sydd eu hangen i fod yn weithiwr proffesiynol paragyfreithiol uwch llwyddiannus. Mae’n cyflwyno gwybodaeth gyfreithiol hollbwysig ar draws gwahanol feysydd ymarfer cyfreithiol.
Bydd prentisiaid sy’n cofrestru ar brentisiaeth Lefel 5 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol yn astudio cam Uwch CPQ.
Cipolwg
Rhan Amser
24 mis
UWTSD
Nodweddion y Rhaglen
Bydd prentisiaid sy’n cofrestru ar brentisiaeth Lefel 5 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol yn astudio cam Uwch CPQ.
Hyd: 24 mis
Dulliau astudio: Addysgu ar-lein, hyfforddi, a datblygiad yn y gweithle
Cymwysterau a enillir: Cam Sylfaen CPQ CILEX
Sgiliau Hanfodol Cymru; Cyfathrebu lefel 2, Cymhwyso rhif lefel 2 a
Llythrennedd Digidol lefel 2
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cwblhau’r cam hwn, gall prentisiaid uwch ddewis parhau i weithredu fel Gweithwyr Paragyfreithiol Uwch wrth eu gwaith neu barhau i symud ymlaen i’n Gradd LLB yn y Gyfraith ac Ymarfer newydd PCYDDS neu’r cymhwyster proffesiynol Cyfreithiwr CPQ CILEX.
Asesu'r Rhaglen
Aseiniadau, arholiadau a pherfformiad cymwys.
Cynnwys y Rhaglen
Mae ein prentisiaeth 24 mis yn rhoi i chi’r wybodaeth, y profiad a’r cymhwyster sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa fel gweithiwr paragyfreithiol uwch.
Cam Uwch Datrys Anghydfodau
Cam Uwch Cyfraith Trosedd ac Ymarfer
Cam Uwch Eiddo a Thrawsgludo
Cam Uwch Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol
Cam Uwch Teulu/Ewyllysiau/Busnes a Chyflogaeth
Profiad Proffesiynol
Costau Ychwanegol
Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae ffioedd aelodaeth broffesiynol yn berthnasol ac yn cael eu talu'n flynyddol gan y prentis.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo'n llawn gan y cyflogwr.
Ar fynediad, os nad yw ymgeiswyr yn meddu ar raddau TGAU A-C (neu gyfwerth â hynny), bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.
Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.