Prentisiaeth - Prentis Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae’r Brentisiaeth Baragyfreithiol hon yn cyfuno ymagwedd ymarferol â’r wybodaeth academaidd sydd ei hangen i fod yn weithiwr paragyfreithiol llwyddiannus. Mae rhoi sylw i fanylion, sgiliau cyfathrebu a rheoli pwysau mewn amgylchedd prysur yn nodweddion allweddol sy'n rhan o'r rôl hon ac eraill yn y diwydiant cyfreithiol.

Mae’r rhaglen 24 mis hon yn cynnwys pum modiwl a astudir dros 21 mis ac mae wedi’i strwythuro fel bod y prentis yn astudio un modiwl bob tymor, ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol.

Cipolwg

  Rhan Amser

  24 mis

  UWTSD

Nodweddion y Rhaglen


Mae hon yn rhaglen hynod ymarferol a gynlluniwyd i ddatblygu’r sgiliau a’r priodoleddau hanfodol sydd eu hangen i fod yn weithiwr proffesiynol paragyfreithiol llwyddiannus. Mae’n darparu gwybodaeth gyfreithiol hanfodol i helpu gweithwyr paragyfreithiol ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar dîm ar draws gwahanol feysydd ymarfer cyfreithiol. 

Fel gweithiwr paragyfreithiol cymwys, bydd ystod eang o gyfleoedd gyrfa ar gael i chi. Byddwch yn datblygu sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol neu y tu hwnt iddo.

Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys:

  • Gweithiwr Paragyfreithiol
  • Enillwr Ffioedd Iau
  • Gweinyddwr Cyfreithiol
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol

Dilyniant a Chyflogaeth


Ar ôl cwblhau’r cam hwn, gall prentisiaid ddewis parhau i weithrdu fel Gweithwyr Paragyfreithiol wrth eu gwaith neu barhau i symud ymlaen i’n rhaglen Brentisiaeth Uwch - Lefel 5 Gwaith Paragyfreithiol Uwch.

Asesu'r Rhaglen


Aseiniadau, arholiadau a pherfformiad cymwys.

Cynnwys y Rhaglen


Mae ein prentisiaeth 24 mis yn rhoi i chi’r wybodaeth, y profiad a’r cymhwyster sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa fel gweithiwr paragyfreithiol.

Bydd prentisiaid sy’n cofrestru ar brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyfreithiol yn astudio cam Sylfaen CPQ.

Dulliau astudio: Addysgu ar-lein, hyfforddi, a datblygiad yn y gweithle

Cymwysterau a enillir: Cam Sylfaen CPQ CILEX

Modiwlau:

  • Cam Sylfaen Systemau Cyfreithiol
  • Cam Sylfaen Camwedd
  • Cam Sylfaen Contract
  • Cam Syfaen Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat
  • Cam Sylfaen - Sgiliau proffesiynol a chyfreithiol
  • Profiad Proffesiynol

Mae Sgiliau Hanfodol Cymru; Cyfathrebu lefel 2, Cymhwyso rhif lefel 2 a

llythrennedd digidol lefel 2 hefyd yn ffurfio rhan o fframwaith y brentisiaeth.

Costau Ychwanegol


Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.

Mae ffioedd aelodaeth broffesiynol yn berthnasol ac yn cael eu talu'n flynyddol gan y prentis.

Gofynion Mynediad


Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo'n llawn gan y cyflogwr.

Ar fynediad, os nad yw ymgeiswyr yn meddu ar raddau TGAU A-C (neu gyfwerth â hynny), bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.