Mae’r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig cyflogaeth werth chweil a pharhaus yn y DU a thramor, o godi tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, i gyd yn cael eu cyflawni gyda chefnogaeth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol.
Cipolwg
Rhan Amser
36 mis
UWTSD - Campws Abertawe
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r prentisiaethau Rheolaeth Adeiladu / Syrfeo Meintiau yn cynnigdealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r dechreuad i’r amser pan y’u trosglwyddir i Gleient, gan dynnu ar astudiaethau achos y DU a rhai byd-eang er mwyn adeiladu gwybodaeth o ran defnydd ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y rhaglen hon yn bodloni gofynion y diwydiant, ac wrth wneud hynny’n darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n heriol yn ddeallusol sy’n gysylltiedig â diwydiant a chyrff proffesiynol, gofyniad sy’n diwallu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.
At hynny, mae tîm y rhaglen wedi datblygu nodau’r cwrs er mwyn gwella datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion presennol y diwydiant am reolwyr canol.
Mae deilliannau modiwlau’n mynd i'r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau ynghyd â deilliannau mwy cyfarwydd fel damcaniaethau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion cleientiaid. Yn ychwanegol at y rhain mae amrywiaeth o sgiliau lefel uwch sydd wedi'u cynllunio i integreiddio â deilliannau’r modiwlau.
Asesu'r Rhaglen
NVQ - Portffolio o dystiolaeth
Diploma Cenedlaethol Uwch - Arholiad ysgrifenedig, Tasgau gosod/Asesiad Synoptig
Sgiliau hanfodol - Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan
Cynnwys y Rhaglen
Diploma Cenedlaethol Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau
Diploma NVQ Lefel 5 Edexcel mewn Rheolaeth Adeiladu (Cynaladwyedd)
Sgiliau Hanfodol
Cymhwyso rhif Lefel 2 a Chyfathrebu Lefel 2
Costau Ychwanegol
Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a’i gymeradwyo’n llawn gan y cyflogwr.Rhaid iddo feddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol ac yn ddelfrydol meddu ar raddau C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.
Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.