Mae’r Brentisiaeth Sylfaen Peirianneg mewn Ffabrigo a Weldio. Mae’n rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau lle mae'r dysgwr yn “ennill cyflog wrth ddysgu”. Bydd y Prentis Sylfaen yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth, gan gael ei ryddhau am ddiwrnod i fynychu’r coleg.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr a fydd yn ymweld â’r gweithle yn rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr a’r tîm addysgu i sicrhau bod cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y graddfeydd amser cytunedig. Bydd y prentis yn dilyn NVQ yn y gweithle a fydd yn cael ei asesu gan yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.