Cyflwynir y cymhwyster hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant PCYDDS.
Trwy astudio pedair uned graidd mewn Diwylliant Busnes, Ymddygiadau Craidd, Dadansoddeg a Hanfodion Arfer Pobl, byddwch yn datblygu’r arbenigedd i gefnogi newid a chael effaith yn eich sefydliad. Byddwch yn canolbwyntio ar senarios bywyd go iawn, yn ennill ymddygiadau craidd sy’n deillio o Fap Proffesiwn newydd CIPD, sy’n seiliedig ar fewnwelediadau cronnus miloedd o arbenigwyr. Mae cymwysterau CIPD yn gosod y safon ryngwladol ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol. Byddwch yn ennill hyder i yrru eich gyrfa ymlaen — a gydag aelodaeth CIPD, cewch y gydnabyddiaeth sydd ei hangen i gysylltu â’r rôl rydych chi wedi breuddwydio amdani erioed.
Mae’r Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl yn gymhwyster proffesiynol. Mae’n gosod y meincnod ar gyfer y proffesiwn adnoddau dynol ac mae’n darparu sylfaen gref i roi’r hyder a’r galluoedd i weithwyr adnoddau dynol proffesiynol i arwain eu proses penderfynu, eu gweithredoedd a’u hymddygiadau.
Mae’r cymhwyster lefel mynediad hwn yn berffaith ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol sy’n gweithio yn eu rôl gyntaf mewn adnoddau dynol, neu’n sy’n ceisio dod o hyd iddi, a bydd yn rhoi i chi:
○ Sylfaen gadarn ym maes Arfer Pobl ○ Y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i gyflawni tasgau sydd o fudd i’ch sefydliad ar lefel weithredol ○ Yr hyder i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer eich cydweithwyr a’ch sefydliad.
Cipolwg
Rhan Amser
12 mis
YDDS - Campws Caerfyrddin
Nodweddion y Rhaglen
Prentisiaeth mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol ar Lefel 3
I ennill Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl, gofynnir i ddysgwyr gwblhau cyfanswm o bedair uned yn llwyddiannus.
Unedau Craidd o Diwylliant Busnes o Ymddygiadau Craidd o Dadansoddeg o Hanfodion Arfer Pobl
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cyflawni’n llwyddiannus y Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl yn caniatáu i chi symud ymlaen i Ddiploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl.
Asesu'r Rhaglen
Ffocws asesu
Mae’r asesu ar gyfer Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol. Does dim arholiadau, bydd yr holl asesiadau drwy aseiniadau ysgrifenedig.
Graddio’r asesu
○ Nid yw’r cymhwyster hwn yn cael ei raddio. Bydd dysgwyr yn derbyn naill ai Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu er mwyn cyflawni Pas.
Cyflawni’r cymhwyster
○ Mae’r holl asesiadau ar gyfer y cymhwyster hwn yn cyfeirio at feini prawf, yn seiliedig ar gyflawni deilliannau dysgu penodol. I ennill Pas ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwr fod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer pob uned. Os na chyflawnir y cymhwyster cyfan, gellir rhoi credyd ar ffurf datganiad o gredyd uned annibynnol. Bydd datganiadau o gredyd uned annibynnol yn amodol ar gyfredolrwydd y cymhwyster presennol a gwiriadau sicrhau ansawdd CIPD. Bydd penderfyniad y CIPD yn derfynol.
Gofynion y Rhaglen
Mae ymgeiswyr fel rheol yn 18 neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.
Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, bydd cyfweliad yn ofynnol i sicrhau bod y cymhwyster hwn yn addas i’r dysgwr. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni gofynion y deilliannau dysgu ac yn gallu cael mynediad i’r llythrennedd a’r rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl. Mae angen cymhwyster llythrennedd digidol lefel 2 hefyd.
*Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio i gael mynediad i’r cwrs hwn*.
Costau Ychwanegol
Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.
Mae costau ychwanegol yn cynnwys aelodaeth myfyriwr CIPD gorfodol a phryniant opsiynol o werslyfrau.
Mae aelodaeth myfyriwr CIPD yn costio £98 y flwyddyn, a ffi ymuno o £40 (Chwefror 2022).
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.