Mae cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cynnwys tair uned y cyfeirir atynt fel Prosiectau.
Mae’r Prosiect Cymuned Byd-eang yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso'r Sgiliau Cyfannol gan ystyried ar yr un pryd faterion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn camau gweithredu cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hybu dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Mae’r Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso’r Sgiliau Cyfannol gan archwilio ar yr un pryd nodau ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth yn y dyfodol mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Mae'r Prosiect Unigol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso'r Sgiliau Cyfannol gan gynllunio, rheoli a chynnal ar yr un pryd broject ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact).