


Treftadaeth.

Ethos.
Mae'r Ysgol yn gymuned gyfeillgar, ddynamig a chreadigol sydd ag awyrgylch ‘Ysgol Gelf’ go iawn; ac sydd yn adnabyddus am ei diwylliant cynhwysol a'i pholisi drws agored ar draws adrannau. Rydym yn adnabod ein myfyrwyr ac yn ymdrechu i ddatblygu eu hunigoliaeth. Mae ein dull yn un cytbwys, gan ein bod yn cefnogi myfyrwyr wrth eu herio ar yr un pryd.

Sioe 2021 Show
Gwledig a gyda
Digon o Gysylltiadau.
Rydym yn wledig, gan ein bod wedi ein lleoli yn un o siroedd harddaf Cymru ond eto mae gennym lu o gysylltiadau ym myd celf a dylunio; mae gennym gysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol trwy brosiectau byw, digwyddiadau, cystadlaethau, ymweliadau addysgol, alumni a chysylltiadau â diwydiant. Caiff ein graddau Celf a Dylunio eu dilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Siop Gelf y Pensil.
Mae Siop Gelf y Pensil Lwcus yn rhan annatod o’n hysgol gelf ac yn adnodd ar gyfer ein myfyrwyr. Mae wedi’i lleoli yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ar Gampws Heol Ffynnon Job Coleg Sir Gâr Mae’r siop gelf yn cadw amrywiaeth eang o ddeunyddiau celf, crefft a dylunio arbenigol o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer ystod eang o gymwysiadau, o bensiliau, siarcol, llyfrau braslunio, papur mewn dewis o bwysau, i baent acrylig, olew a dyfrlliw ar gyfer yr artistiaid cain, i offer ar gyfer y ceramegydd, y cerflunydd a’r gemydd a llawer, llawer mwy!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni naill ai ar:
Prif Swyddfa’r Campws
01554 748 201
Neu drwy gyfryngau cymdeithasol lle gallwch ein dilyn ar:
Facebook
facebook.com/LuckyPencilArtShop
Instagram
instagram.com/lucky_pencil_csoa i gael y newyddion a’r ychwanegiadau diweddaraf i’n stoc.
Ein Cyrsiau.

BA Anrhydedd Dylunio 3D Digidol
Mae Dylunio 3D a Rhith-wirionedd yn rhaglen sydd wedi datblygu o dechnolegau datblygol mewn diwydiant creadigol sy’n esblygu’n barhaus. Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i archwilio syniadau arloesol a modernaidd tra’n ennill sgiliau cyfunol mewn celf, dylunio a thechnoleg. Bydd yna ffocws ar gipio, creu ac allbynnu modelau ac amgylcheddau 3D digidol, gan ganolbwyntio’n benodol ar lwyfannau Rhith-wirionedd.

BA Anrhydedd Amlddisgyblaethol mewn Celf a Dylunio
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu rhaglen astudio amlochrog a phwrpasol trwy ddewis cyfuniad o fodiwlau o ddwy o'n graddau arbenigol. Byddwch yn gweithio ar draws gwahanol lwyfannau, gan gynhyrchu ymarfer dynamig ac arloesol wrth fynd i'r afael â diddordebau personol a'ch paratoi ar gyfer eich uchelgeisiau proffesiynol yn y dyfodol.

BA Anrhydedd Cerameg
Mae'r rhaglen heriol a chyffrous hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ar draws y ddau arbenigedd penodol hyn. Mae'r ffocws ar ddysgu trwy wneud ac wrth i chi ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a diddordebau unigol gallwch ddewis arbenigo, neu gynhyrchu gwaith cyfoes sydd yn mynd i'r afael â'r ddwy farchnad.

BA Anrhydedd Celf Gysyniadol a Darlunio
Datblygwyd y cwrs newydd a chyffrous hwn mewn ymateb i’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu sy’n dylanwadu ar ein byd heddiw. Os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio gemau a dylunio cysyniad cymeriad, dylunio amgylchedd ar gyfer ffilm neu ddarlunio mae ein cwrs gradd mewn Celf Gysyniadol a Darlunio yn berffaith i chi.

BA Anrhydedd Dylunio Ffasiwn
Mae'r rhaglen hon yn datblygu eich gallu a'ch hyder mewn dylunio a llunio dilladau ffasiwn trwy brofiad ymarferol. Caiff technolegau traddodiadol a chyfoes eu defnyddio i feithrin datblygiad hunaniaeth ddylunio unigol, er mwyn sicrhau eich bod yn datblygu portffolio o waith dylunio ffasiwn sydd yn berthnasol i anghenion cyfredol y diwydiant.

BA Anrhydedd Celfyddyd Gain: Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau
Byddwch yn dysgu sut i drin prosesau peintio, lluniadu a gwneud printiau mewn gweithdai penodol, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau ar themâu traddodiadol megis bywluniadau a thirluniau. Mae'r pwyslais ar arbrofi mewn amgylchedd stiwdio cyffrous, gan archwilio'r gorffennol i lywio ymarfer cyfoes.

BA Anrhydedd Dylunio Gemwaith
Hwn yw’r unig gwrs gradd gemwaith annibynnol yng Nghymru ac mae ei strwythur yn canolbwyntio ar sesiynau gweithdy ymarferol sy’n cael eu cyflwyno i grwpiau bach mewn gweithdai sydd â chyfarpar da.
Mae datblygiadau diwylliannol a chymhwyso dulliau i ddeunyddiau’n arloesol wedi bod wrth wraidd gwneud gemwaith bob amser a bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael eu herio a’u hannog i feddwl yn arloesol a chreadigol am ystod o ddeunyddiau, gan ddefnyddio prosesau gwneud traddodiadol a datblygiadau newydd mewn technoleg.

BA Anrhydedd Ffotograffiaeth
Mae'r rhaglen radd hon yn cynnig safbwynt ffres ar broffesiwn cyffrous ffotograffiaeth. Byddwch yn archwilio ystod amrywiol o genres o ffotograffiaeth ddogfennol i fywyd gwyllt, gan ddatblygu eich sgiliau a'ch diddordebau. Bydd hyn yn arwain at bortffolio arbennig ac unigolyddol sydd yn briodol ar gyfer eich uchelgeisiau proffesiynol.

BA Anrhydedd Celfyddyd Gain: Cerflunio
Mae gan y cwrs hwn enw da yn rhyngwladol am ddatblygu arbenigedd. Mae gan yr adran ffowndri bwrpasol ac mae'n darparu gweithdai mewn weldio, castio mewn efydd, haearn ac alwminiwm, modelu mewn clai a cherfio coed, sydd yn gosod sylfaen ar gyfer eich ymarfer unigol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafodd timau o fyfyrwyr gyfle i deithio'n eang wrth gynnal arddangosiadau castio haearn.

BA Anrhydedd Tecstilau
Mae'r rhaglen unigryw hon yn canolbwyntio ar wehyddu, gwau a chyfryngau cymysg fel meysydd arbenigol o fewn dylunio tecstilau. Mae prosesau lluniadu a digidol yn sbarduno syniadau tra bod y pwyslais ar sgiliau yn cynhyrchu gwybodaeth a hyder er mwyn i chi ddatblygu unigoliaeth wrth baratoi at yrfa ym maes tecstilau.

TYSTYSGRIF AU
Ychwanegiad diweddar i'n portffolio o raglenni lefel prifysgol yw'r Dystysgrif Addysg Uwch.
Mae hwn yn gymhwyster annibynnol Lefel 4 sy’n flwyddyn gyntaf ein Rhaglenni Gradd. Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd.
Tystysgrif AU mewn Dylunio 3D a Rhith-wirionedd >>
Tystysgrif AU mewn Celf a Dylunio Amlddisgyblaethol >>
Tystysgrif AU mewn Cerameg a Gemwaith: Gwneuthurwr 3D >>
Tystysgrif AU mewn Celf Gysyniadol a Darlunio >>
Tystysgrif AU mewn Ffasiwn: Dylunio a Llunio >>
Tystysgrif AU mewn Celfyddyd Gain: Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau >>
Tystysgrif AU mewn Ffotograffiaeth >>
Tystysgrif AU mewn Cerflunio: Castio, Cerfio, Llunio >>
Tystysgrif AU Tecstilau: Gwau, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg >>

ASTUDIAETHAU SYLFAEN MEWN CELF, DYLUNIO A'R CYFRYNGAU
Sefydlwyd y cwrs hwn yn 1965, ac mae ganddo enw da yn genedlaethol am ragoriaeth gyda llawer o raddedigion bellach yn gweithio ar frig eu maes. Cynhelir gweithdai, ymarfer stiwdio a darlithoedd ar draws yr ysgol gelf, sydd yn cynnig cyfle i chi arbrofi a datblygu sgiliau a dealltwriaeth o'r ystod lawn o arbenigeddau celf a dylunio i lywio eich llwybr yn y dyfodol.

MYNEDIAD I AU CELF A DYLUNIO
Mae'r rhaglen lefel 3 hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer myfyrwyr nad ydynt o bosibl wedi ennill unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol ond sydd yn gallu arddangos brwdfrydedd dros gelf a dylunio ac ymrwymiad i'r pwnc.

CELF A DYLUNIO (AR ÔL TGAU)
Mae ein cyrsiau ar gampws Pibwrlwyd yn rhoi cyfle i chi gael sylfaen yn yr egwyddorion a'r sgiliau cyffredinol sy'n tanategu celf, dylunio a chrefft. Mae gan y cyrsiau ffocws ymarferol ar draws celf a dylunio a ffasiwn ac maent yn darparu cyfleoedd i chi symud ymlaen i astudio neu weithio ar y lefel nesaf.

Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio A Chyfathrebu Lefel 3
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle delfrydol i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol digidol i archwilio, datblygu ac ehangu eu brwdfrydedd creadigol o fewn strwythur cymhwyster sydd yn ysgogol ac ymestynnol ac sy’n helpu darparu proses bontio gefnogol o addysg bellach i addysg uwch.

CRIW CELF
Prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf sydd yn dod â myfyrwyr mwy galluog a thalentog at ei gilydd yn y celfyddydau gweledol - gyda myfyrwyr yn amrywio o 9-18 oed. Mae'n rhan o fenter genedlaethol i feithrin talent artistig ifanc yng Nghymru. Wrth weithio'n agos gydag ysgolion, colegau a’r gymuned leol, mae Criw Celf yn ceisio datblygu ymarfer creadigol disgybl a'i wybodaeth am gelfyddydau gweledol a chymhwysol drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr.
Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr rydym yn cyflwyno’r Prosiectau Criw Celf Canlynol:
Anelir Portffolio at ddysgwyr ym mlynyddoedd ysgol 10 ac 11 (TGAU)
Anelir Codi'r Bar at ddysgwyr ym mlynyddoedd ysgol 12 ac 13 (Lefel UG a Safon Uwch)
O fis Medi 2022 mae partneriaeth Criw Celf Gorllewin wedi cael y cyfle i weithio gyda dysgwyr iau.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o fanylion
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Instagram: https://www.instagram.com/criw_celf_csoa

RHAGLEN CYRSIAU BYR
Mae cyrsiau byr yn addas ar gyfer dechreuwyr neu'r rheiny sydd am adnewyddu sgiliau presennol, ac ar gyfer y rheiny sy'n un ar bymtheg oed neu'n hŷn. Mae ein cyrsiau byr yn rhoi mynediad i chi i stiwdios a gweithdai sydd ag adnoddau eithriadol o dda gyda chyfarpar traddodiadol a chyfarpar arloesol. Caiff y cyrsiau eu cyflwyno yn yr adrannau gradd gan staff adrannol.