Croeso i
Fwyty Myrddin.

Bwyty Myrddin yw cyfleuster hyfforddi Coleg Sir Gâr ar gyfer egin-gogyddion a maître d’staff. Mae’r Bwyty Myrddin yn cynnig bwydlen table d’hote ac mae wedi hen ennill ei blwyf am ansawdd ei fwyd a’i wasanaeth, a gallwch fwynhau prydau o safon bwyty am brisiau rhesymol.

Ers nifer o flynyddoedd mae Bwyty Myrddin wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch allu gwasanaethu’r cyhoedd mewn amgylchedd bwyty go iawn, gan roi profiad gwerthfawr iddynt o’r diwydiant ac o ymwneud â chwsmeriaid.

Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i weithio ym mwytai gorau Llundain ac wedi gweithio mewn gwestai a bwytai megis Claridge’s a L’Esgargot.

Mae un cyn-fyfyriwr hefyd wedi gweithio gyda Marco Pierre White ac ar leoliad gyda Gary Rhodes. Mae gan bob un o’r tiwtoriaid yn y coleg brofiad o’r diwydiant. Gyda chefnogaeth gan gyflogwyr, maent mewn sefyllfa dda i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori o weithio yn y diwydiant. Drwy gydol y flwyddyn bydd Bwyty Myrddin yn croesawu rhai o brif bencogyddion gwadd y sir i weithio gyda myfyrwyr, gan gynhyrchu bwydlenni arbennig a digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd.

Mae gan y bwyty hefyd gyfleuster bach sydd ar gael i’w logi ar gyfer seminarau a chyfarfodydd.

Oriau Agor y Bwyty 2022 >>

Ffoniwch i gadw bwrdd

FFÔN

01554 748620/ 748261

E-BOST

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Bwyty Myrddin,Campws Pibwrlwyd, Caerfryddin

The College of Choice
Get in Touch

Graig Campus
Sandy Road
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Get in Touch

Graig Campus
Sandy Road
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. 
The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN