Mae ein cae chwarae 3G yn gyfleuster gwych ar gyfer addysgu, hyfforddi a gemau. Mae’r sioc laddwyr tanlawr yn golygu y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed a rygbi ill dau ac mae’n gyfleuster cymeradwy gan Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae’r cyfleuster ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu neu gan yr Academïau Chwaraeon. Mae eisoes rhaglen brysur o sesiynau hyfforddi bob noson o’r wythnos lle mae ystod eang o sefydliadau partner yn llogi’r cae chwarae cyfan, neu rannau ohono ar gyfer eu hadrannau iau a hŷn.
Ar ddyddiau Sadwrn a Sul mae’r cae chwarae ar gael i’w logi ar gyfer gemau.
Am wybodaeth bellach ynghylch llogi’r cyfleuster hwn, cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. Ffôn: 01554 748147
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN