Skip to main content
Designer

Dysgu Cyfunol  – Y Gorau O Ddau Fyd

Rhagarweiniad

Mae ein cyrsiau Ar-lein ac Ar y Campws yn gyrsiau dysgu cyfunol – cymysgedd o astudio ar-lein a gwersi wyneb yn wyneb gyda thiwtor coleg.  I bobl â bywydau prysur mae hon yn ffordd wych o astudio, ac mae myfyrwyr sy'n cwblhau ein harolygon yn dweud wrthym fod dull o ddysgu cyfunol yn eu helpu i ennill eu cymhwyster.

Ar-lein ac ar y Campws - dysgu cyfunol

Mae cyrsiau gwobrwyedig Mindful Education wedi'u cynllunio i wneud addysg broffesiynol yn haws i ddysgwyr, gan ddarparu profiad dysgu sy'n gymhellol, yn reddfol ac yn ddiddorol.

Gyda chwrs Ar-lein ac Ar y Campws gallwch gyfuno buddion dysgu ar-lein â bod yn rhan o ddosbarth sy'n cyfarfod yn rheolaidd â thiwtor coleg.

  • Dysgu ar-lein trwy wersi a ddarperir gan academyddion sy'n arbenigwyr pwnc
  • Darlithoedd fideo o ansawdd uchel sy'n defnyddio graffeg symudol i ddod â chysyniadau'n fyw
  • Mae ymarferion rhyngweithiol yn creu profiad dysgu cyfoethog a diddorol
  • Astudiwch o amgylch eich ymrwymiadau gwaith a bywyd
  • Cewch fynediad i wersi ar ffôn symudol, tabled neu fwrdd gwaith a gallwch edrych eto ar wersi pan fo angen
  • Mae bod yn rhan o ddosbarth yn eich helpu i’ch cadw chi’n frwdfrydig ac ar y trywydd iawn.

Mae cyfraddau cyflawniad ar gyfer cyrsiau Mindful Education yn rhagorol; Mae 80% o ddysgwyr Mindful Education sy'n cwblhau eu cymhwyster yn ennill gradd teilyngdod neu ragoriaeth.

Slide 3
Laura Wise
Myfyrwraig AAT Ar-lein ac Ar y Campws

“Wrth ymgymryd â newid gyrfa a symud i faes cyllid, mae cael yr opsiwn o ddysgu cyfunol wedi bod yn amhrisiadwy. Mae'r cwrs Mindful yn hawdd iawn ei ddefnyddio, rwy'n hoffi gallu gwe-lywio'n ôl trwy fideos i adolygu a gallu gweithio unrhyw bryd i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Mae'r fideos yn gynhwysfawr. Diolch i ba mor hawdd yw ei ddefnyddio a gwybodaeth helaeth ar lwyfan Mindful, llwyddais yn fy AAT Lefel 2 gyda rhagoriaeth o 98% ac mae fy nau arholiad cyntaf ar Lefel 3 wedi bod yn 95% a 96% hefyd. Diolch!

Ein Cyrsiau Ar-lein ac Ar y Campws

Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon (Ar-lein ac Ar y Campws)

Mae’r cwrs AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel mynediad, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n edrych am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon.  

Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu (Ar-lein ac Ar y Campws)

Mae’r cwrs AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cyfrifyddu lefel mynediad, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n edrych am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cyfrifyddu.

Cyflwynir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth â , ac mae’n cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb-yn-wyneb yn yr ystafell ddosbarth.  

Prentisiaeth AAT Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws)

Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifeg. Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.