Skip to main content

Beth yw Dysgu Digidol Uniongyrchol?

O’r blaen learndirect oedd enw ein Dysgu Digidol Uniongyrchol, fodd bynnag mae’r coleg bellach wedi cynyddu’r ddarpariaeth gymunedol hon i gynnwys ystod ehangach o gyrsiau eDdysgu!

P'un a hoffech chi wella eich sgiliau cyflogadwyedd, neu gwblhau cwrs TG, mae gennym ystod o gyrsiau ar-lein hyblyg i weddu i'ch holl anghenion. Cyn i chi ddechrau, byddwn yn darganfod pam rydych chi am ddysgu ac yn awgrymu pa rai o'n cyrsiau sydd orau i chi. Caiff holl gyrsiau Dysgu Digidol Uniongyrchol eu cyrchu drwy’r rhyngrwyd, fodd bynnag mae ein dosbarthiadau a leolir yn y gymuned yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb hefyd.

Mae ein portffolio yn cynnwys dros 3000 o gyrsiau ar-lein, a thrwy ddefnyddio technoleg heddiw i gyflwyno dysgu trwy'r ffonau symudol, gliniaduron a’r rhyngrwyd, mae Dysgu Digidol Uniongyrchol yn chwalu'r rhwystrau i ddysgu y mae llawer o bobl yn eu hwynebu: diffyg amser, arian a ffitio o gwmpas y teulu ac ymrwymiadau eraill. Trwy ddysgu ar-lein gyda ni gallwch chi ddysgu ar amser, mewn lle ac ar gyflymdra sy'n gyfleus i chi.

Y cyrsiau mwyaf poblogaidd yw cyfrifiadura, sgiliau byw a chyflogadwyedd. Rydym yn darparu ar gyfer myfyrwyr o bob lefel a chaiff pob cwrs ei dorri i lawr yn ddarnau bach sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddysgu ar eu cyflymdra eu hunain.

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth ar amrywiol gyrsiau ffoniwch 01554 748345 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.