Skip to main content

Multiply - Sgiliau Rhifedd Oedolion

Mae Multiply yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.

Os ydych chi’n 19 mlwydd oed a throsodd ac nad oes gennych chi TGAU Mathemateg ar radd C (neu gyfwerth), gallwch gael fanteisio ar gyrsiau rhifedd rhad am ddim trwy Multiply i feithrin eich hyder gyda rhifau ac ennill cymhwyster. Mae Coleg Sir Gâr yn falch o fod yn gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru a Phartneriaeth ACL Sir Gaerfyrddin mewn 25+ o leoliadau yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin. (Ar gyfer Ceredigion cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion yn uniongyrchol) Gall sgiliau rhifedd da ddatgloi cyfleoedd gwaith ac arwain at gyflogau uwch neu eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach.

Maen nhw hefyd yn helpu mewn bywyd bob dydd, fel helpu plant gyda gwaith cartref a chyllidebu arian. Mae cyrsiau ar gyfer dechreuwyr i gyrsiau uwch fel TGAU Mathemateg, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, neu gyfwerth, felly byddwch yn gallu dysgu ar gyflymder sy'n addas i chi.

Mae dysgu cymunedol yn hwyl ac yn datblygu lles cadarnhaol. Gallwch ddysgu ffracsiynau trwy origami, siâp a gofod trwy arddio a mesuriadau trwy goginio, i enwi dim ond ychydig o ffyrdd rydym ni’n gwneud mathemateg yn hwyl!

Anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gael rhagor o wybodaeth.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.