Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol perthynol cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.
Ymgymerir ag addysgu mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi'u cyfarparu â'r cyfarpar a'r offer diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Bwriad y rhaglen yw rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanig cerbydau modern.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.
Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Mae'r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu'r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso'ch astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy'n anelu at gyfoethogi'ch astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.
Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i raglen brentisiaeth.
Mae'r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:
Yn ogystal â'r unedau uchod, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol.
Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig ac arsylwadau tasgau ymarferol.
Gofynnwn fod gennych:
Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.