Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Cipolwg
Rhan Amser
2 Flynedd
Pob campws perthnasol
Fel coleg, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Lefel 3 CBAC newydd yn lansio ym mis Medi 2023. Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol fel cymhwyster cyffrous a newydd, a gynlluniwyd i gefnogi ein dysgwyr i dyfu fel pobl ifanc annibynnol, effeithiol a chyfrifol. Bydd cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion gweithgar, yn barod i gychwyn ar yrfa lwyddiannus a ffyniannus neu lwybr addysg uwch.
Drwy gwblhau cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i:
- Ddatblygu ymhellach a chwymhwyso sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol at ddiben dysgu gydol oes
- Meithrin a chyflwyno’u sgiliau cynllunio a threfnu, datrys problemau; creadigrwydd ac arloesi; meddwl yn feirniadol, a sgiliau effeithiolrwydd personol
- Datblygu ymhellach a chymhwyso sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol at ddiben dysgu gydol oes
- Cael y cyfle i ymgysylltu a ffynnu mewn cyfleoedd gweithgar, creadigol a arweinir gan ddysgwyr
- Datblygu ymhellach a chymhwyso sgiliau gwneud penderfyniadau, datrys problemau a gwerthuso at ddiben dysgu gydol oes
- Datblygu ymhellach a chymhwyso eu sgiliau menter, annibyniaeth a gwytnwch
Gweithio gyda'i gilydd ac yn annibynnol i gymryd cyfrifoldebau ac ymgysylltu â'n cymunedau byd-eang a lleol hefyd
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr 16-19 oed sy'n dilyn cwrs dwy flynedd. Fel arfer, bydd yn cael ei sefyll ochr yn ochr â chymwysterau lefel 3 eraill, fel cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a/neu gymwysterau galwedigaethol.
Gellir cwblhau cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cynnwys tair uned y cyfeirir atynt fel Prosiectau.
Mae’r Prosiect Cymuned Byd-eang yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso'r Sgiliau Cyfannol gan ystyried ar yr un pryd faterion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn camau gweithredu cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hybu dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Mae’r Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso’r Sgiliau Cyfannol gan archwilio ar yr un pryd nodau ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth yn y dyfodol mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Mae'r Prosiect Unigol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu bod yn gallu cymhwyso'r Sgiliau Cyfannol gan gynllunio, rheoli a chynnal ar yr un pryd broject ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact).
Asesir pob Prosiect drwy gyfres o dasgau lle mae gofyn i ddysgwyr arddangos sut maen nhw'n cymhwyso eu sgiliau cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesi ac effeithiolrwydd personol. Wrth gwblhau eu hasesiadau bydd dysgwyr yn archwilio testunau sy'n berthnasol ac o ddiddordeb iddynt o fewn themâu wedi'u diffinio'n fras sy'n gysylltiedig ag Agenda Datblygiad Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru.
Mae asesu'r Prosiect Cymuned Byd-eang yn cyfrannu 25% at radd gyffredinol y cymhwyster.
Mae asesu’r Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol yn cyfrannu 25% at radd gyffredinol y cymhwyster.
Mae asesu'r Prosiect Unigol yn cyfrannu 50% at radd gyffredinol y cymhwyster. Mae dysgwyr yn debygol o gwblhau'r Prosiect Unigol yn eu hail flwyddyn.
Mae'r cymhwyster yn cael ei raddio A*-E.
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, mae'n rhesymol tybio y bydd llawer o ddysgwyr wedi ennill cymwysterau sy'n cyfateb i lefel 2 ac y byddant wedi datblygu sgiliau cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesi ac effeithiolrwydd personol i'r lefel hon.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fireinio a datblygu'r sgiliau hyn i lefel uwch. Nid yw'r fanyleb hon yn benodol i oedran ac felly mae'n darparu cyfleoedd i ddysgwyr barhau i ddysgu gydol oes.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan CBAC yn:
https://www.wjec.co.uk/home/advanced-skills-baccalaureate-wales/