Mae’r cwrs AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cyfrifyddu lefel mynediad, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n edrych am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cyfrifyddu.
Cyflwynir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth â , ac mae’n cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb-yn-wyneb yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r cwrs Lefel 2 hwn wedi'i ariannu'n rhannol, felly mae'r gost i fyfyrwyr yn llai.
Cipolwg
Rhan Amser
1 Blwyddyn
Ar-lein / Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau cyfrifyddu lefel iau a mynediad. Mae'n darparu sylfaen gadarn mewn gweinyddu cyllid - gan gwmpasu meysydd fel cofnodi dwbl i egwyddorion costio sylfaenol a defnyddio meddalwedd cyfrifyddu.
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu. Mae’r cymhwyster AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol yn galluogi’r rheiny sy’n gweithio ym maes cyfrifyddu neu’r rheiny sydd am ddilyn cyfrifeg fel gyrfa i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a’r ardystiad hollbwysig y mae cyflogwyr yn aml yn chwilio amdano.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r cwrs Lefel 2 yn ymdrin ag ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Egwyddorion Cadw Cyfrifon
Egwyddorion Costio
Yr Amgylchedd Busnes
Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu busnes a dysgu gydol oes, gan gymhwyso'r hyn a ddysgwch ar y cwrs i gyd-destun ehangach y diwydiant.
Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym wedi partneru gyda Mindful Education i gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model Ar-lein ac Ar y Campws hyblyg.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn, sydd ar gael ar alw, ac y gellir eu gweld ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy’n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos.
Ar y campws, rydych yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Gymwysterau Cyfrifyddu AAT lefel uwch (Lefel 3 ac yna ymlaen i Lefel 4). O dan fenter y Gronfa Sgiliau Genedlaethol, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad dysgwr uwch i dalu cost eich astudiaeth Lefel 3. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.
Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu hennill trwy gydol y cymhwyster hwn yn eich cymhwyso ar gyfer rolau gan gynnwys Cynorthwyydd Cyfrifon, Cynorthwyydd Cyllid, Cynorthwyydd Rheoli Credyd neu Glerc Llyfr Pryniadau.
Asesu'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu trwy arholiadau ar gyfrifiadur ac asesiad synoptig, sy’n tynnu ar, ac yn asesu, gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws y cymhwyster.
Gofynion y Rhaglen
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Byddai gwybodaeth flaenorol o gyfrifyddu neu gymhwyster Cadw Cyfrifon Lefel 1 yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.
Costau Ychwanegol
Codir tâl ychwanegol am bob ailsefyll arholiad. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a gallech hefyd wynebu costau os bydd yr adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.