I'r rheiny sy'n frwdfrydig ynghylch dechrau a rhedeg eu busnes eu hunain, dyma'r cwrs i chi.
Cwrs galwedigaethol sy'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am ddod yn entrepreneur llwyddiannus. Mae'n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i'ch helpu i adnabod cyfle busnes posibl a datblygu eich busnes eich hun. Caiff dysgwyr eu cefnogi gan hybwr menter y coleg sy'n eich annog i ddatblygu eich syniadau busnes.
Anogir pob dysgwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau megis cystadlu mewn cystadlaethau fel Bwrsariaeth y Goleudy.
Datblygwyd y cymhwyster hwn gan Peter Jones o Dragon's Den i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ac i roi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi.
Mae cwblhau aseiniadau'n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gallu arwain at hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu addysg uwch.
Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant ymhellach.
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i ddechrau a rhedeg eich busnes eich hun neu i yrfaoedd mewn ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â busnes. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys symud ymlaen i fusnes blwyddyn 2 a hefyd i brentisiaethau sy'n gysylltiedig â busnes a dilyniant i addysg uwch.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau Diploma Atodol mewn Menter ac Entrepreneuriaeth a Thystysgrif Genedlaethol mewn Busnes sy'n cynnwys 7 uned mewn menter ac entrepreneuriaeth a 2 uned mewn busnes. Astudir ystod o unedau sy'n cynnwys yr entrepreneur arloesol, cynllunio busnes a chynnig syniadau ac arweinyddiaeth a gwaith tîm.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol.
Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy'n cynnwys arholiadau allanol, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Menter ac Entrepreneuriaeth Lefel 3 feddu ar: O leiaf 5 TGAU gradd A* - C neu gyfwerth
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. Mae mynediad i fyfyrwyr hyn sydd heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.