I'r rheiny sy'n frwdfrydig ynghylch busnes, dyma'r cwrs i chi. Cwrs galwedigaethol sy'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad ym maes busnes. Mae'n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o feysydd busnes sydd yn cynnwys marchnata, rheoli adnoddau dynol a chyllid. Mae dysgwyr yn ymweld ag ystod o fusnesau ac yn datblygu cyfleoedd rhwydweithio gyda chyflogwyr. Trwy ymweld a gweithio gyda chyflogwyr lleol byddwch yn gallu cymhwyso theori busnes i fyd ymarferol busnes ar ffurf prosiectau ac aseiniadau sydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.
Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a'u trafod yn yr ystafell ddosbarth. Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn. Mae cwblhau arholiadau ac aseiniadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster busnes a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gallu arwain at gyflogaeth neu bosibiliadau addysg uwch. Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy'n gysylltiedig â busnes a dilyniant i addysg uwch.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau Diploma mewn Busnes sy'n cynnwys 9 uned. Caiff ystod o unedau busnes eu hastudio sy’n cynnwys: Archwilio Busnes, Datblygu Ymgyrch Farchnata, Cyllid Personol a Chyllid Busnes, Rheoli Digwyddiad a thair uned opsiynol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Sylfaen AAT mewn Cadw Cyfrifon.
Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy'n cynnwys arholiadau allanol, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Busnes Lefel 3 feddu ar: O leiaf 5 TGAU gradd A* - C neu gyfwerth. Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. Mae mynediad i fyfyrwyr hyn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.