Cymhwyster Lefel 4 - Diploma mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Wedi’i gynllunio i ddatblygu rheolwyr canol a rheolwyr llinell gyntaf uchelgeisiol.
Mae dysgwyr yn adeiladu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut i fod yn arweinwyr effeithiol yn eu sefydliadau.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael ac yn defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol, canfod datrysiadau i broblemau, rheoli arloesedd a newid mewn sefydliadau a hefyd yr hyn sydd ei angen i arwain ac ysgogi tîm.
Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.
Y canlyniadau i chi:
Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr:
Mae’r rhaglen yn cynnwys naw uned:
Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.