Mae'r cwrs hwn yn darparu cyfle i ddysgwyr symud yn gyflym trwy lefel 2 a chyflawni cymhwyster lefel 3 o fewn y flwyddyn.
Cymhwyster byr yw'r cwrs hwn a ddatblygwyd i gydnabod dealltwriaeth y dysgwyr o swyddogaethau a gweithgareddau gweinyddol a gwasanaeth cwsmer. Mae'n achredu gallu'r dysgwyr i gyflawni ystod o dasgau gweinyddol a gwasanaeth cwsmer yn annibynnol ac mae wedi'i gynllunio i achredu eu cyflawniadau mewn ffordd fodern ac ymarferol sydd yn berthnasol i'r cyd-destun gwaith.
Fel rhan o'r rhaglen bydd y dysgwyr hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol ac yn ymgymryd â diwrnod o brofiad gwaith perthnasol. Bydd yna gyfleoedd hefyd i wneud TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
Gallwch chi nawr astudio'r cwrs hwn yn rhan-amser, un diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd.
Llawn Amser / Rhan Amser
Blwyddyn Llawn Amser, 2 flynedd Rhan Amser
Campws y Graig
Tystysgrif OCR Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes (Proffesiynol Busnes)
Tystysgrif OCR Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes (Proffesiynol Busnes)
Dyfarniad BTEC Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer
Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael gwaith fel gweinyddwyr cyffredinol ac arbenigol a chynorthwywyr personol. Cawsant waith mewn banciau, yn y cyfryngau, cwmnïau cyfreithiol, cwmnïau cyfrifyddu, iechyd ac awdurdodau lleol a nifer o sefydliadau preifat a chyhoeddus eraill. Fel arall, gallai myfyrwyr fod yn medru symud ymlaen i'r cwrs Lefel 3 mewn Busnes.
Caiff yr unedau Gweinyddiaeth (Proffesiynol Busnes) a Gwasanaeth Cwsmer ar y cwrs hwn eu hasesu'n fewnol gan ddarlithwyr a phersonél sicrhau ansawdd a'u safoni'n allanol gan OCR a BTEC.
4 TGAU gradd D neu uwch neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth. Mae mynediad yn ddibynnol ar gyfweliad dewis. Mae mynediad i fyfyrwyr hyn heb gymwysterau ffurfiol fel y mynno'r Maes Cwricwlwm.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.