I'r rheiny sy'n frwdfrydig ynghylch busnes neu ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain, dyma'r cwrs i chi.
Cwrs galwedigaethol sy'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad ym maes busnes neu i ddod yn entrepreneur llwyddiannus. Mae'n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o feysydd busnes i'ch helpu i adnabod cyfle busnes posibl a datblygu eich busnes eich hun. Caiff dysgwyr eu cefnogi gan hybwr entrepreneuraidd y coleg sy'n eich annog i ddatblygu eich syniadau busnes a thrwy ymweliadau â busnesau lleol, i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio.
Anogir pob dysgwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau megis cystadlu mewn cystadlaethau fel Bwrsariaeth y Goleudy.
Llawn Amser
Blwyddyn neu 2 flynedd
Campws y Graig
Datblygwyd y cymhwyster hwn gan Peter Jones o Dragon's Den i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ac i roi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi. Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a'u trafod yn yr ystafell ddosbarth. Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn. Mae cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gallu arwain i hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu i’r brifysgol.
Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau Diploma mewn Busnes sy'n cynnwys 9 uned. Caiff ystod o unedau busnes eu hastudio sy’n cynnwys: Archwilio Busnes, Datblygu Ymgyrch Farchnata, Cyllid Personol a Chyllid Busnes, Rheoli Digwyddiad a thair uned opsiynol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Sylfaen AAT mewn Cadw Cyfrifon.
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid neu i ddechrau a rhedeg eich busnes eich hun. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy'n gysylltiedig â busnes a dilyniant i’r brifysgol.
Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy'n cynnwys arholiadau allanol, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar: O leiaf pump TGAU graddau A* - C neu gyfwerth sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn pwnc galwedigaethol perthnasol ar deilyngdod neu uwch yn llwyddiannus.
Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.