Anelir y cwrs hwn at reolwyr iau newydd ac uchelgeisiol. Mae’n ddelfrydol os ydych chi am adeiladu eich sgiliau rheolaeth craidd a datblygu fel arweinydd. Mae’r cwrs hwn yn darparu egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae’n sail dda ar gyfer unigolion sy’n bwriadu symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial, pris ar gael ar gais.
Rhan Amser
Blwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael ac yn defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol, canfod datrysiadau i broblemau, rheoli arloesedd a newid mewn sefydliadau a hefyd yr hyn sydd ei angen i arwain ac ysgogi tîm.
Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth uned:
Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Y canlyniadau i chi:
Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr
Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.