Mae hwn yn gwrs lefel pump a anelir at benaethiaid adrannau, rheolwyr cyffredinol a rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol. Mae’n ddelfrydol os ydych chi am ddatblygu gwybodaeth fusnes arbenigol a sgiliau technegol.
Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau, ac yn manteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial, pris ar gael ar gais.
Rhan Amser
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Mae’r rhaglen yn cynnwys naw uned:
Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Y canlyniadau i chi:
Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr:
Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.