Bydd dysgwyr yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos am 2 flynedd.
Mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau technegol, ymarferol a throsglwyddadwy sy’n gysylltiedig â gwaith a gwybodaeth benodol i fusnes. Mae datblygu’r sgiliau hyn yn allweddol i ddysgwyr er mwyn symud ymlaen i waith, addysg bellach neu i brentisiaeth.
Cipolwg
Rhan Amser
2 flynedd yn rhan-amser - un diwrnod yr wythnos
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Cymwysterau’n gysylltiedig â galwedigaeth, pob un â phwrpas clir.
Cynnwys cyfoes sy'n cyd-fynd yn agos ag anghenion cyflogwyr ar gyfer gweithlu medrus yn y dyfodol.
Asesiadau a phrosiectau a ddewisir mwyn helpu dysgwyr i symud ymlaen i’r cam nesaf.
Mae’r cymwysterau’n paratoi dysgwyr ar gyfer gwaith, addysg bellach neu Brentisiaeth drwy roi cyfle i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth am fusnes, sgiliau technegol ac ymarferol a ddisgwylir gan gyflogwyr mewn amgylchedd busnes.
Drwy weithgareddau ymarferol ac aseiniadau galwedigaethol addas i'r pwrpas, bydd dysgwyr yn ennill y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i roi'r cyfle gorau iddynt fod yn llwyddiannus wrth wneud cais am waith.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 BTEC mewn Gweinyddu Busnes yn cynnwys:
Deall Gwasanaethau Gweinyddol
Darparu Gwasanaethau Gweinyddol
Defnyddio Technoleg Fusnes i Brosesu a Chyfathrebu Gwybodaeth
Chynllunio, Trefnu a Chefnogi Digwyddiadau Busnes
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaethau neu gwrs busnes llawn amser.
Asesu'r Rhaglen
Caiff y cymhwyster hwn ei asesu trwy gymysgedd o aseiniadau a osodir yn fewnol a osodwyd gan eich darlithwyr ac arholiadau allanol a osodir gan BTEC.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN