Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr tîm newydd ac uchelgeisiol. Mae’n rhoi cyflwyniad manwl i rôl a chyfrifoldebau arweinydd tîm. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Rhan Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Sesiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol. Bydd cyflwyniad y cwrs yn cael ei deilwra at anghenion y grŵp. Mae’n fwyaf tebygol mai dysgu cyfunol fydd yr opsiwn a ffefrir.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys pynciau megis Datblygu eich hun fel Arweinydd Tîm, Gwella Perfformiad y Tîm Gwaith a Chynllunio a Monitro Gwaith. Mae ystod eang o opsiynau ar gael sy'n cynnwys gwasanaeth cwsmer, datrys problemau, agweddau cyfreithiol, gwneud penderfyniadau ac arferion cyfathrebu.
Bydd yr unigolyn yn elwa o ddysgu sgiliau craidd i arwain tîm yn llwyddiannus, technegau cymhelliant ac ennill yr hyder i fynd i’r afael â materion anodd. Bydd cyflogwyr yn gweld eu staff yn datblygu eu potensial ac yn dod yn gymwys wrth reoli pobl a pherthnasoedd.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ymgymerir ag asesiadau ffurfiol fel aseiniadau, cwestiynau ac atebion neu adroddiadau myfyriol ynghyd â thystiolaeth o gynnyrch.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Cost y cwrs yw £155.