Mae hwn yn fan dechrau delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid.
Pwrpas y cwrs yw cynnig sylfaen ar gyfer y wybodaeth a'r sgiliau cyfrifyddu craidd sydd eu hangen i symud ymlaen naill ai i gyflogaeth neu astudio pellach. Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn ogystal ag i oedolion sydd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno newid gyrfa.
Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd. Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.
Rhan Amser
Blwyddyn (derbyniadau Ionawr a Medi)
Campws Pibwrlwyd
Bydd myfyriwr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu ystod eang o sgiliau cyfrifyddu, yn ogystal â sgiliau busnes a phersonol sy’n gysylltiedig â chyfrifyddu. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o feddalwedd cyfrifyddu ac yn datblygu sgiliau ac ymddygiadau sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys sgiliau cyfathrebu a TG a dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes. Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy'n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Corff Proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu yn cwmpasu ystod o sgiliau cyfrifyddu a chyllid a busnes mewn pedair uned orfodol:
Caiff tair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned. Mae'r cymhwyster hwn hefyd yn cynnwys asesiad synoptig sydd yn tynnu ar, ac yn asesu, gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.
Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi myfyriwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i'r lefel ddysgu nesaf.
Gall y sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir yn y Dystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu arwain at gyflogaeth fel:
Y wybodaeth gyfrifeg a chyllid a ddatblygir yn y cymhwyster hwn yw’r wybodaeth greiddiol sydd hefyd ei hangen ar gyfer y sgiliau cyfrifeg ac ariannol lefel uwch a ddatblygir yng Nghymwysterau Cyfrifyddu Uwch a Chyfrifyddu Proffesiynol AAT.
Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau o lwyddiant, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol eraill, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol efallai bydd y rhain yn caniatáu i fyfyrwyr hawlio eithriadau.