Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr canol gweithredol, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad, gwella perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau uwch reolwyr.
Defnyddio technegau rheoli craidd i gael canlyniadau gwell. Datblygu eich gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli.
Darparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd. Meincnodi eich sgiliau rheoli. Codi eich proffil yn eich sefydliad. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Rhan Amser
4 mis (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Esiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich dulliau arwain a dulliau arwain eich sefydliad. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar yr hyn mae arweinyddiaeth yn ei olygu i chi ac i ystyried sut i gael y gorau o'ch pobl.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:
2 aseiniad i'w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un).
Profiad cyfredol o arwain a rheoli.
Cost y cwrs yw band ffi: £190