Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol.
Mae’r cymhwyster yn helpu dysgwyr i wir fynd i’r afael â’u rôl, i ennill gwybodaeth fusnes gynhwysfawr, a datblygu'r sgiliau technegol sydd eu hangen arnynt i arwain yn effeithiol ar y lefel hon. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Rhan Amser
Blwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Sesiynau addysgu misol gyda sesiynau tiwtorial unigol i drafod cynnydd.
Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar reoli newid a gweithredu prosiectau o fewn y sefydliad. Dysgwch am bwysigrwydd rheoli newid yn effeithiol a mynd â’ch tîm gyda chi.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:
3 aseiniad i'w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un).
Cost y cwrs yw band ffi: £190