Mae prentisiaeth uwch AAT yn fframwaith lefel pedwar ar gyfer unigolion a hoffai ddatblygu eu sgiliau cyfrifyddu a chyllid i lefel broffesiynol.
Mae’r brentisiaeth hon yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sy'n gweithio mewn rôl gyllidol ac sydd am adeiladu ar eu sgiliau neu ennill cydnabyddiaeth ffurfiol amdanynt neu fynd ymlaen i astudio ar gyfer statws siartredig. Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr). Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni Fframwaith Prentisiaeth Uwch lefel pedwar o fewn y raddfa amser a gytunwyd.
Cipolwg
Rhan Amser
Bydd cwblhau’r fframwaith prentisiaeth uwch yn cymryd hyd at 16 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Mae Diploma’r AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel. Bydd myfyrwyr yn edrych ar ac ymgyfarwyddo ag ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheolaeth ariannol.
Bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser. Hefyd byddan nhw’n asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae gwybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cymhwyso, bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau cyswllt o’r AAT yn awtomatig a byddant, gyda phrofiad gwaith perthnasol, yn gymwys i gael aelodaeth AAT lawn, a fydd yn caniatáu iddynt ddefnyddio'r llythrennau MAAT ar ôl eu henw.
Gall sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:
Mae Diploma’r AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cwmpasu’r unedau canlynol:
Cyfrifon Rheoli Cymhwysol
Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
Systemau a Rheolaethau Cyfrifyddu Mewnol
Treth Bersonol
Archwilio a Sicrwydd
Caiff y pum uned hyn eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif ar lefel dau (Gall eithriadau fod yn berthnasol).
Gofynion y Rhaglen
Byddai angen unrhyw un o’r llwybrau canlynol: cwblhad diploma lefel tri mewn cyfrifyddu neu lefel tri mewn cyfrifyddu; gradd gyfrifyddu berthnasol wedi’i chymeradwyo gan AAT cyn cychwyn. Mae mynediad i’r brentisiaeth hefyd yn dibynnu ar gyflogaeth addas.
Yn ogystal argymhellir safon dda mewn mathemateg a Saesneg. Bydd unrhyw brofiad galwedigaethol mewn cyfrifyddu o fudd enfawr.
Costau Ychwanegol
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN