Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n ceisio gwaith, mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae hwn yn gwrs llawn amser ac mae’r cymhwyster yn seiliedig ar weithdai ac ymarfer.
Hefyd, bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 280 o oriau lleoliad.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, byddwch yn:
Datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cynnal gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant
Ystyried rôlau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
Deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn eich galluogi i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel dau cymwys mewn swyddi dan oruchwyliaeth. Yn ogystal, gallai’r cymhwyster arwain at:
Ddilyniant i wella eich addysg
Lefel tri mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel tri mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Diploma Lefel 2/3 mewn Gwaith Chwarae
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Asesu'r Rhaglen
Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal, bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer a thasgau sy’n cael eu hasesu’n fewnol.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, bydd angen i chi wirfoddoli neu gael gwaith mewn lleoliad gofal plant.
Bydd angen gwiriad DBS manwl clir.
Costau Ychwanegol
Mae’r cwrs yn costio £265
DBS Manwl - £44
All learners are required to pay an administration fee of £45 prior to enrolment.
You will need to provide your own stationery and may also incur costs if the department arranges educational visits.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.