Diploma Lefel 1 mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy'n ceisio llwybr i ofal plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen


Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy'n seiliedig yn bennaf ar weithdai, gydag elfennau o brofiad lleoliad gwaith gofal plant a/neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynnwys y Rhaglen


Bydd y cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o unedau seiliedig ar ofal plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys:

  • Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc drwy Chwarae
  • Cyflwyniad i Ffordd Iach o Fyw
  • Cyflwyniad i Weithio mewn Partneriaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen Diwtorial
  • Adolygiadau Cynnydd
  • Datblygiad Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
  • Byddwch Actif

Dilyniant a Chyflogaeth


Gallai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i gwrs lefel 2.

Asesu'r Rhaglen


Arsylwadau ar Leoliad 

Asesiadau ysgrifenedig

Bydd enghreifftiau’n cynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau PowerPoint a ffurfiau amrywiol eraill

Gofynion y Rhaglen


Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Lefel 1 feddu ar:

O leiaf 4 TGAU ar radd D i G a DBS manwl clir.

Costau Ychwanegol


Ffi Cofrestru - £45 y flwyddyn

DBS Manwl - £44

Iwnifform - y gost yn fras am Hwdi £20, Crys Polo £12

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.