Mae'r radd sylfaen yn gwrs llawn amser dwy flynedd neu dair blynedd rhan-amser, sy'n arwain at gymhwyster mewn cynghori therapiwtig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP). Felly, mae'r cwrs hwn yn cael ei fonitro gan BACP ac mae'n bodloni eu safonau hyfforddiant.
Bydd angen i chi naill ai gwblhau'r radd sylfaen llawn amser yn ogystal â'r BA neu gwblhau'r radd sylfaen yn rhan-amser dros dair blynedd er mwyn bod ar y rhaglen BACP achrededig.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan Amser
Dau ddiwrnod yn llawn amser dros ddwy flynedd neu un diwrnod yr wythnos yn rhan-amser dros dair blynedd. Mae'r ddau yn gofyn am leoliad cynghori dan oruchwyliaeth o 100 awr ac 20 awr o therapi personol.
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Mae'r radd sylfaen wedi'i bwriadu ar gyfer y rheiny sy'n dymuno cymhwyso fel cynghorwyr. Bydd angen i chi gwblhau 100-150 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth mewn lleoliad cynghori addas er mwyn ennill cymhwyster cynghori achrededig BACP. Rhaid i ymarfer cynghori fod yn gynghori wyneb yn wyneb gydag oedolion (o leiaf 30%) neu blant a phobl ifanc (uchafswm o 70%).
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gael o leiaf 20 awr o therapi personol.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r radd sylfaen yn cwmpasu pedwar prif faes:
Theori cynghori: edrych yn feirniadol ar y syniadau y tu ôl i gynghori.
Ymarfer cynghori a materion proffesiynol: materion moesegol craidd, cyfle cyfartal, materion proffesiynol ac ymarfer gan gynnwys gweithio ar-lein
Ymarfer clinigol: lleoliad cynghori
Datblygiad personol: datblygu hunanymwybyddiaeth a deall ymatebion i eraill
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall myfyrwyr symud ymlaen i'r BA mewn cynghori.
Mae myfyrwyr o'r cwrs hwn hefyd wedi symud ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.
Asesu'r Rhaglen
Asesu parhaus gan gynnwys:
Crynodebau adfyfyriol dyddlyfr
Traethodau ar theori
Astudiaethau achos
Cyflwyniadau grŵp ac unigol
Recordiadau fideo o waith gyda myfyrwyr eraill a recordiadau sain o waith gyda chleientiaid
Portffolio o dystiolaeth o waith lleoliad
Gofynion y Rhaglen
Mae'r cwrs hwn yn gofyn am:
Ddyfarniad lefel dau CPCAB mewn cyflwyniad i sgiliau cynghori (30 awr) neu gyfwerth
Fel rheol, bydd myfyrwyr wedi cwblhau hyfforddiant rhagarweiniol o fewn pum mlynedd cyn gwneud cais am y radd sylfaen
Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
Dau eirda
Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawma neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â'r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs
Costau Ychwanegol
DBS Manwl - £46
Costau goruchwyliaeth (unwaith byddwch yn y lleoliad) £50 - £65 y mis (os na ddarperir yn rhad ac am ddim gan leoliadau)
Therapi personol - 20 sesiwn o leiaf £30 - £40 y sesiwn
Diwrnodau i ffwrdd - dau i dri dros y cwrs am £15 y dydd
Aelodaeth myfyriwr BACP - £82 y flwyddyn
Llyfrau - mae'r llyfrgell yn llawn adnoddau da ac mae'n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs, ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.