Skip to main content

Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 16 o weithdai undydd

  • Campws Rhydaman 

Mae'r diploma lefel tri mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (QCF) wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n cael eu cyflogi mewn lleoliad gofal.

Bydd hyn yn darparu tystiolaeth o gymhwysedd y dysgwr mewn rolau a chyfrifoldebau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc. 

Os ydych yn bwriadu gweithio yn Lloegr cysylltwch â Skills for Care (SfC) i gael mwy o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol.

Nodweddion y Rhaglen
  • Gweithdai cefnogi rheolaidd yn y coleg
  • Asesu gan aseswyr cymwys a phrofiadol
  • Cymhwyster statudol a gydnabyddir ledled Cymru a Gogledd Iwerddon
Cynnwys y Rhaglen

Mae’r unedau gorfodol fel a ganlyn:

  • Cyfathrebu,
  • Datblygiad Personol,
  • Cydraddoldeb a Chynhwysiant,
  • Dyletswydd Gofal,
  • Datblygiad Plant a Phobl Ifanc,
  • Diogelu Lles Plant a Phobl Ifanc,
  • Iechyd a Diogelwch,
  • Perthnasoedd Cadarnhaol a Chanlyniadau Cadarnhaol,
  • Cydweithio er Budd Plant a Phobl Ifanc,
  • Asesu a Chynllunio,
  • Lles a Gwytnwch,
  • Nam ar y Synhwyrau,
  • Ymarfer Proffesiynol.
  • Dewisir Unedau Opsiwn fel sy'n berthnasol i leoliad gwaith y dysgwr.
Dilyniant a Chyflogaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu fel gofyniad statudol ar gyfer dilyniant o fewn y sector gofal i’r holl staff.

Dull asesu

Y radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster yw pas. Er mwyn pasio unrhyw uned, rhaid i’r dysgwr gyflawni’r holl ddeilliannau dysgu a nodwyd a bodloni'r holl feini prawf asesu trwy ddarparu tystiolaeth ddigonol a dilys ar gyfer pob maen prawf mewn portffolio.

Aseswr yn y coleg fydd yn asesu’r dyfarniad gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau gan gynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, adroddiadau adfyfyriol ysgrifenedig, trafodaeth broffesiynol, cwestiynau ac atebion, tystiolaeth gan dyst arbenigol a thystiolaeth o gydnabod dysgu blaenorol. 

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Does dim angen cymwysterau ffurfiol ond bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio ar lefel 3 mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol a chael cefnogaeth gan eu cyflogwr i gwblhau'r dyfarniad.

Gall rolau gwaith gynnwys uwch gynorthwyydd gofal, uwch weithwyr cymorth mewn lleoliadau gofal preswyl, gofal dydd, gofal seibiant, gofal maeth.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.