Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • Hyd at 2 Flynedd

  • Campws y Graig

Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer gwaith ac astudiaeth bellach mewn sector sgiliau sy'n datblygu'n gyflym.

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu gwybodaeth eang a dofn sy’n ymwneud â'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.  Bydd yn darparu sail gadarn ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i’r gweithle.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd y cymhwyster yn cwmpasu'r wybodaeth greiddiol, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Ffactorau sy'n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
  • Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
  •  Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
  •   Anatomeg a ffisioleg
  • Cefnogi iechyd a lles oedolion yng Nghymru
  • Hybu hawliau unigolion ar bob cam o'r rhychwant oes
  • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni'r canlyniadau maen nhw'n dymuno eu cael 
  • Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Fel rhan o'r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith.   Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau'r cwrs.

Cynnwys y Rhaglen

Byddwch yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau. Mae’r cymwysterau hyn yn gyfwerth â 3 Safon Uwch.          

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen Diwtorial
  • Adolygiad Cynnydd
  • Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru, WEST  a datblygu’r iaith Gymraeg.

Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch mewn meysydd sy’n cynnwys:

  • gofal cymdeithasol  
  • therapi iaith a lleferydd
  • seicoleg
  • bydwreigiaeth 
  • iechyd galwedigaethol
Dull asesu

Asesir y cymwysterau trwy gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig allanol ac asesiadau nad ydynt yn arholiadau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 3 feddu ar:

O leiaf 5 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf.  Mae angen i Fathemateg fod yn radd E neu uwch.

Bydd gan ddysgwyr sy'n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys - cwblhau ac ymgysylltu'n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.

Costau Ychwanegol
  • Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
  • DBS Manwl - £44
  • Iwnifform (Hwdi a Chrys-T) - Tua £40

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.