Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 10 wythnos

  • Campysau’r Graig, Rhydaman, Pibwrlwyd ac ar-lein 

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol 10-wythnos o hyd i'r rheiny sy’n dymuno dysgu sgiliau cynghori (sgiliau gwrando ac ymateb) mewn rolau helpu.  

Mae'r cwrs yn eich galluogi i ddarganfod mwy am gynghori ac yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am fynd ymlaen i hyfforddi fel cynghorwr.

Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld y gall y cwrs hwn helpu i wella rolau proffesiynol a pherthnasoedd personol presennol, p’un a ydyn nhw'n mynd ymlaen i hyfforddi ymhellach ai peidio.

Nodweddion y Rhaglen

Cynigir y cwrs hwn ar dri champws gwahanol:  Pibwrlwyd (Caerfyrddin), Y Graig (Llanelli), Rhydaman ac ar-lein.    

Mae'r cwrs yn rhedeg am 10 wythnos am dair awr ac fel arfer caiff ei redeg gyda'r nos (5pm i 8pm) neu yn y prynhawn (1pm i 4pm) yn Rhydaman.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs yn cwmpasu saith prif faes gan gynnwys cydnabod cyfyngiadau a ffiniau rôl helpu, cyfathrebu empathi, canolbwyntio ar agenda’r sawl sy’n cael ei helpu, cydnabod pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth, rhoi a derbyn adborth yn ogystal ag elfen ymarferol o ddefnyddio sgiliau gwrando ac ymateb.   

Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael ar wefan CPCAB.

Argymhellir bod myfyrwyr yn cael y llyfr CPCAB sy'n cyd-fynd â'r cwrs hwn:  Counselling skills and Studies (2il Argraffiad) gan Dykes, Kopp a Postings.

Dilyniant a Chyflogaeth

Nid yw'r cymhwyster hwn yn arwain yn uniongyrchol at rôl gyflogedig, fodd bynnag, gall wella rôl wirfoddol neu rôl â thâl bresennol neu gynyddu cyflogadwyedd cyffredinol y rheiny sy'n ceisio camu i’r farchnad swyddi.

Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch wneud cais am y radd sylfaen mewn cynghori sy'n eich cymhwyso i fod yn gynghorydd.

Dull asesu

Byddwch yn cadw portffolio o'ch dysgu gan gynnwys darnau adfyfyriol ysgrifenedig ac adborth gan gyfoedion a thiwtor am eich ymarfer sgiliau cynghori.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, mae'r cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig.  

Felly, nid yw'r cwrs hwn yn cael ei argymell ar gyfer y rheiny sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu ddryswch seicolegol difrifol.

Costau Ychwanegol

Mae gan y cwrs hwn ffi o £155.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.